2184c Gwefan Cymru-Catalonia. Pàgina dels
continguts de la secció sobre el “Gwenhwyseg”, el dialecte gal·Lès del sud-est
de Gal·les. ‘La llengua dels Gwennwys’ és l’etimologia de la paraula, és a dir,
els habitants de la regió de Gwent. Fa cent anys era el dialecte més estès de
la llengua. Avui endia, gairebé ha desaparegut del totcom a conseqüència d’un
“suicidi ling¨´istic”. a les primeres
dècades del segle passat, quan la gent apostava massivament per la llengua
anglesa, i no van passar la llengua als fills.
http://www.kimkat.org/amryw/1_gwenhwyseg/gwenhwyseg_cyfeirddalen_2184c.htm
0001z Yr Hafan
..........2658c Y Fynedfa yn Gatalaneg / Entrada en català
....................0008c Y
Barthlen / Mapa de la web
...............................0043c yr iaith Gymraeg / la
llengua gal·lesa
..........................................aquesta pàgina / y tudalen hwn
|
Gwefan Cymru-Catalonia (1) introducció |
|
0934k Y dudalen hon yn Gymraeg - cyfeirddalen adran y Wenhwyseg
1004e This page in English -
orientation page for the section on the Gwentian dialect
(1)
CYFLWYNIAD / INTRODUCCIÓ
Mae i’r Gymraeg ddwy brif
dafodiaith, sef iaith y Gogledd a iaith y De. O fewn y ddwy dafodiaith hon, y
mae yn draddodiadol ffurf orllewinol ac un ddwyreiniol.
El gal·lès té dos dialectes principals, la llengua del nord i la del sud.
Dintre d’aquests dialectes, hi ha tradicionalment una fomra occidental i una
d’oriental.
Felly os dychmygwn mai gwlad ar siâp
sgwâr yw Cymru, ceir yn y cornelyn uchaf ar y chwith y Wyndodeg, iaith Gwynedd;
cyferbyn â hon y mae’r Bowyseg, iaith Powys; yn y cornelyn isaf, ar y chwith, y
mae’r Ddyfedeg, iaith Dyfed; ac ar y gwaelod, i’r dde, y Wynhwyseg.
Per tant si imaginem que Gal·lès té la forma d’un quadrat, a la part de
dalt a l’esquerra y ha el dialecte ‘Gwyndodeg’, el de la regió de Gwynedd; al
seu costat el dialecte Powyseg, la de la regió de Powys; al racó de sota, a
l’esquerra, el dialecte Dyfedeg, de la regió de Dyfed; i a la part de sota a la
dreta el dialecte Gwenhwyseg, de la regió de Gwent.
Gellir dadlau nad yw’r rhaniad hwn yn
hollol gywir, a bod mwy na phedair tafodiaith, ac nad yw’r ffinau mor eglur â
hyn. Bid a fo am hynny, nid yw’r cynllun syml yn bell ohoni, ac wrth sôn am y
tafodieithoedd yn fras mae’n ddadansoddiad defnyddiol o’r sefyllfa
Es pot argumentar que aquesta divisió no és del tot correcte, i que hi ha
més que quatre dialectes, i que els límits no són tan clars que això. Però a
banda d’això, aquest esquema simplificat no és tan allunyat de la situació e
debó, i si parlessim dels dialectes de manera general és una analisi útil de la
situació
(delw 0082)
SENSE TRADUCCIÓ ENCARA
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru bu sôn am y Wenhwyseg am y tro cyntaf yn y
ganrif ar ôl 1300 - "mor didlawt ynggwawt yggwennhwyssec" (mor
ddi-dlawd yng ngwawd yng Ngwenhwyseg). (di-dlawd - gair hynafol am gyfoethog;
gwawd = gwatwar yn yr iaith gyfoes wrth gwrs, ond yn y Canol Oesedd =
canmoliaeth, canu mawl)
Yn 1632 fe ddywedwyd mai ‘iaith went, Dialectus Ventae prouincie’ oedd; ac yn
1688 ‘Iaith-gwent; the Dialect of Chepstow formerly, and now of all South
Wales’.
Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru yw -Tafodiaith Gwent, iaith y Gwennwys
yn wreiddiol, ond bellach y mae’n cynnwys iaith Morgannwg hefyd .
Can mlynedd yn ôl, dyma oedd tafodiaith bennaf Cymru - iaith y ‘Gwiitha’.
Daeth Cymry o’r Gorllewin, o Geredigion a Shir Gâr; daeth rhai o’r Gogledd
hefyd i geisio gwaith yn y ‘Mynyddoedd’. A’r Wenhwyseg siaradai plant y
mewnfudwyr. Ac er gwaethaf y mewnlifiad mawr o du Lloegr, Iwerddon, a pharthau
eraill, ar y dechrau fe ddaeth y rhan fwyaf o’r newydd-ddyfodiaid yn Gymry
glân, neu o leiaf eu plant. A’r Wenhwyseg oedd ar eu gwefusau.
Ar ôl 1900, am wahanol resymau fe dehreuodd gwyr Gwent a Morgannwg gefnu ar y
Gymraeg - ond yn anad dim am nad oedd grym gwleidyddol gan genedl y Cymry i
amddiffyn eu hiaith, yn wahanol i rai cenhedloedd ar dir mawr Ewrop fel y
Tsheciaid a’r Slofeniaid, er enghraifft, a lwyddodd i ennill annibyniaeth a
chodi eu hieithoedd yn eu hôl. O fewn canrif mae’r iaith Gymraeg yn y broydd
hyn wedi cilio, ac er bod yr iaith yn gyfrwng llawer o ysgolion yn y
de-ddwyrain ar ôl blynyddoedd maith o ymgyrchu a brwydro, nid iaith y fro sydd
yn cael ei harfer yno.
Yn nhref Rhymni, tua 1983, fe welais rwyg rhyfedd rhwng y cenedlaethau - y
tad-cu a’r fam-gu yn Gymry dwyieithog, eu meibion a’u merched yn Saeson
uniaith, a’r wyrion a’r wyresau yn siarad rhyfaint o Gymraeg am iddynt fynychu
ysgol gynradd Gymraeg. Yn aml iawn, nid oedd y tad-cu na’r fam-gu yn fodlon
siarad a’r plant hyn yn Gymraeg - nid oeddynt am ‘ddifetha’ iaith ‘gywir’ neu
iaith ‘lyfr’ y plant â’u ‘mwngral Welsh’. Nid oedd cyn-ddisgyblion yr ysgolion
Cymraeg yn gyfarwydd â’r iaith leol o gwbl. (Ffynhonell - gwaith maes wrth
wneud doethuriaeth na orffennais)
Pwrpas yr adran hon yn ein gwefan yw darparu gwybodaeth a deunydd ar gyfer
Cymry Cymraeg a dysgwyr yn y de-ddwyrain. Ar hyn o bryd mae diddordeb mawr yn y
Gymraeg, nid yn unig yng Nghymru ond hefyd y tu draw i Glawdd Offa a dros y
môr. Ond gobeithio bydd dysgwyr y de-ddwyrain, neu ddisgynyddion y Cymry o Went
a Morgannwg aeth i wledydd eraill i ennill eu tamaid, yn dod i adnabod eu
hiaith nhwthau yn well, tafodiaith sydd wedi ei dibrisio ers canrif, ac efallai
byddant yn mabwysiadu rhai o’i nodweddion.
Peth chwithig imi yw clywed dysgwyr yn y de-ddwyrain sydd yn mynnu siarad iaith
y Gogledd am ei bod, yn eu tyb nhw, yn ‘burach’, yn ‘ddilysach’ neu yn ‘fwy
ceinwych’. Ond nid yw hyn yn wir o gwbl - mae iaith y Gogledd yn fwy gogleddol
na iaith y de, a dyna’r cwbl!
Dewch i napod iaith y Gwiitha!
Bro’r
Wenhwyseg yn fras:
(delw 7319)
(2)
MYNEGAI I’N
|
Testunau yn y gwefan hwn wedi eu hysgrifennu
yn y Wenhwyseg; neu lyfrau ac erthyglau yn Gymraeg ac yn Saesneg ar y
Wenhwyseg |
|
|
|
|
|
Llyfryddiaeth - cyfeiriadau at lyfrau ac erthyglau
wedi eu hysgrifennu yn y Wenhwyseg; neu lyfrau ac erthyglau yn Gymraeg ac yn
Saesneg ar y Wenhwyseg |
|
|
|
|
|
Geiriadur
ymledol y Wenhwyseg (yn Saesneg) |
|
|
Nodweddion
tafodiaith y De-ddwyrain - dengys y gwahaniaethau rhwng Cymraeg llenyddol a’r
Wenhwyseg |
·····
DOLENNAU ALLANOL / ENLLAÇOS EXTERNS
http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod2004/cefndir/geiriau.shtml
Tudalen y BBC ar y Wenhwyseg / Pàgina dela BBC sobre el dialecte ‘gwentià’
(pàgina en gal·lès)
----------------------------------------------------------
http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/cymraeg/adnodd/word/cymraegllafargwent.doc
(document word)
http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/cymraeg/adnodd/pdf/cymraegllafargwent.pdf (document
pdf)
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru / Societat de Traductors de Gal·les
Cymraeg
Llafar Gwent / Mary Wiliam, Darlith Goffa Hedley Gibbard 3/08/04
El gal·lès parlat de Gwent, per Mary Wiliam.
Conferència comemorativa de Hedley Gibbard 3 / agost / 2004 (pàgina en
gal·lès)
----------------------------------------------------------
http://ead.llgc.org.uk/arddangos.php?math=manylion&iaith=eng&xmlfile=297664.xml&proto=&sec=intro
Ffurflen gais ar gyfer gweld Llawysgrif Llyfrgell Gendlaethol Cymru NLW MS 1148E / Formulari oer demanar veure el mauscrit de la Biblioteca Nacional de
Gal·les NLW MS 1148E
(Fe welir fod yn well gan ein Llyfrgell Genedlaethol ddefnyddio talfyriadau o’r
Saesneg ar gyfer eu cyfeirnodau - NLW
MS. Rhag cywilydd).
(Es veu que la nostra Bibliotca
Nacional prefereix fer servir abreviatures del l’anglès per als seus codis de
referència - NLS MS. Quina vergonya.)
“The Gwentian Dialect” -
Awdur / Autor: Isaac Craigfryn Hughes
Diwedd y ddeunawfed ganrif / Finals del segle 19
Geirfa o’r Wenhwyseg a siaredid ym Morgannwg. Mae iddo gyflwyniad yn Saesneg.
Vocabulari del dialecte gwentià com es parlava a la regió de Morgannwg. Hi ha
una introducció en anglès.
Sumbolau
arbennig: ŷ ŵ
Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan
“CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (=
Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
Adolygiad diweddaraf 08 12 2000
CYMRU-CATALONIA